Minau bryfyn gwael o'r ddaear

(Gorfoledd y Nef)
Minau bryfyn gwael o'r ddaear,
  'Rof fy llais yn mhlith y llu, 
Saint, Cerubiaid, ac Angylion, 
  A'r Seraphiaid bywiog fry!
O na chawn i ymgymysgu,
  A Sêr y boreu mewn un dôn,
Rhown fy llais i mewn i'r anthem,
  Am ddyoddefaint addfwyn Oen.

Mi gâf glywed cydsain hyfryd,
  Digrëedig TRI yn UN,
Yn cyhoeddi heddwch nefol,
  Perffaith wrthyf fi fy hun;
Saint, Seraphiaid, ac Angylion,
  Mewn rhyw gydsain hena' erioed
Gydâ mi yn seinio'r Anthem,
  O anfeidrol ddwyfol glôd.

Yno caf fi ddechreu hanes,
  Hanes o lawenydd pur,
Byth ni chlywir diwedd arno,
  Yn y paradwysaidd dir;
Bob mynydyn bydd yn dechreu,
  Swnio maes heb dewi a sôn,
Ddoniau maith anfeidrol hyfryd,
  Croeshoeliedig addfwyn Oen.

Yno llenwir fy nymuniad,
  Er ei faint ac er ei gri,
Fy holl wagter wneir i fynu,
  Gyda'r Duwdod, UN yn DRI;
Mi gaf yfed o ffynnonau,
  Pleser ag sy'n dyfrhau,
A datguddiad pur o fywyd,
  A llawenydd i barhau.
William Williams 1717-91

[Mesur 8787D]

gwelir:
  Anweledig 'rwy'n dy garu (Rhyfedd ...)
  Capten mawr ein hiachawdwriaeth/hiechydwriaeth
  Clustiau cnawd ni allant glywed
  Gwlad yw'r nef o swn gofidiau
  Llawen ydwyf fod dy hanfod
  Nid oes terfyn ar flynyddau
  O mor hyfryd yw'r meddyliau
  'Rwy'n dy garu addfwyn Iesu
  'Rwy'n dy garu ddweda'i chwaneg
  Wyneb siriol fy anwylyd

(The Jubilation of Heaven)
I a base worm from the earth,
  Will give my voice amongst the throng,
Of saints, Cherubim, and Angels,
  And the lively Seraphim above!
O that I might mingle,
  With the morning Stars in one tune,
I would give my voice within the anthem,
  About the suffering of the gentle Lamb.

I will get to hear a delightful harmony,
  The uncreated THREE in ONE,
Announcing perfect, heavenly
  Peace, to me myself;
Saints, Seraphim, and Angels,
  In some most ancient ever harmony
With me sounding the Anthem,
  Of infinite, divine praise.

There I will get to begin the story,
  The story of pure joy,
Never is an end to it to be heard,
  In the paradisiacal land;
Every minute will be beginning,
  To sound out without ceasing to mention,
The vast, immeasurable, delightful gifts,
  Of the crucified, gentle Lamb.

There to be fulfilled is my desire,
  For its privilege and for its cry,
All my emptiness is to be made up,
  With the Godhead, ONE in THREE;
I will get to drink from the wells,
  Of pleasure and which water,
And of a pure revelation of life,
  And joy to endure.
tr. 2015 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~